Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
30 Ebrill 2018
SL(5)209 – Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â Byrddau Diogelu Plant a sefydlir o dan adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Byrddau Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134(5) o’r Ddeddf honno.
Mae rheoliad 2 yn newid y partner arweiniol ar gyfer Ardal Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, gan newid y partner arweiniol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Gyngor Sir Ddinbych.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar: 17 Ebrill 2018
Fe’u gosodwyd ar: 20 Ebrill 2018
Yn dod i rym ar: 25 Mai 2018